Mae 34 o bobol wedi’u hanafu wedi i un o drenau tanddaearol Efrog Newydd ddod oddi ar y cledrau yn Harlem.
Fe gafodd yr amserlen ei heffeithio am gyfnod, ac fe achosodd y cyfan oedi cyffredinol trwy’r rhwydwaith.
Mae awdurdodau trafnidiaeth gyhoeddus y ddinas bellach yn ymchwilio er mwyn ceisio darganfod sut y digwyddodd y ddamwain.
Y gred ydi fod brêcs argyfwng y trên wedi gafael cyn i’r cerbyd ddod oddi ar y cledrau yng ngorsaf 125th Street / St Nicholas Avenue.
Mae rhannau o’r gwasanaeth ar stop o hyd, tra bod ymchwiliad yn digwydd.