Mae swyddog gwybodaeth filwrol o’r Wcrain wedi’i ladd gan fom car yn ninas Kiev, ac mae’r awdurdodau yn trin y digwyddiad fel ymosodiad brawychol.

Fe gafodd gyrrwr y car ei ladd yn syth, wrth i’r cerbyd gael ei chwythu i fyny ar gyffordd fore Mawrth.

Fe gafodd cerddwr ei gludo i’r ysbyty yn dilyn y ffrwydrad, ac fe gafodd enw’r gyrrwr ei gyhoeddi y Cyrnol Maxim Shapoval.

Mae cyfryngau’r Wcrain yn adrodd mai ef oedd pennaeth lluoedd arbennig y wlad.