Salvador Dali (Llun: Carl Van Vechten, eiddo cyhoeddus)
Mae Llys yn Sbaen wedi gorchymyn fod yn rhaid i gorff yr arlunydd, Salvador Dali, gael ei godi er mwyn cynnal profion DNA.
Daw’r dyfarniad wedi i ddynes o ddinas Girona, Pilar Abel, honni mai Salvador Dali yw ei thad.
Cafodd ei geni yn 1956 ac mae hi’n dweud y bu’r arlunydd mewn perthynas â’i mam am gyfnod.
Yn ôl y llys ym Madrid, mae’r profion yn hanfodol er mwyn medru cymharu DNA.
Petai’n dod i’r amlwg bod y ddynes yn perthyn i Salvador Dali, mae’n bosib y byddai hi yn medru hawlio peth o’i gyfoeth.
Mae Salvador Dali yn cael ei ystyried o fewn byd y celfyddydau fel un o brif enwau’r symudiad Swrrealaidd a bu farw yn 1989.