Baner Colombia
Mae o leiaf 6 o bobol wedi marw a 31 ar goll wedi i gwch ar gyfer twristiaid suddo ger dinas Medellin yng Ngholombia.

Roedd 160 o bobol yn teithio ar gwch yr El Almirante pan suddodd o fewn munudau yng nghronfa ddŵr Guatape.

Doedd neb ar y cwch yn gwisgo siacedi achub ac mi gafodd nifer o bobol eu hachub gan unigolion ar gychod hamdden.

Dydy hi ddim yn glir beth wnaeth achosi i’r llong fferi suddo ond yn ôl pobol a welodd y ddamwain o lannau’r gronfa ddŵr, roedd gormod o bobol ar ei bwrdd.

Mae pobol leol hefyd yn honni bod yr El Almirante wedi suddo tua mis yn ôl tra oedd hi wedi docio, ac mae’n bosib nad oedd y cwch yn barod i ddychwelyd i’r dŵr.