Kashmir
Mae pedwar ymwelydd o India, ynghyd â thri o bobol leol, wedi marw wedi i gar cêbl blymio i’r ddaear o uchder o 30 troedfedd mewn tref dwristaidd yn Kashmir.

Mae pedwar o bobol eraill wedi’u hanafu yn y digwyddiad yn nhref Gulmarg – ac mae un o’r rheiny mewn cyflwr difrifol.

Y gred ydi mai hyrddiadau o wynt oedd yn gyfrifol am ddymchwel coeden yn yr ardal, a bod honno wedi taro’r car cêbl.

Mae’r awdurdodau wedi trwsio’r cêbl ac wedi achub tua chant o bobol oedd yn sownd y tu mewn i’r cerbyd. Maen nhw hefyd yn chwilio’r ardal o gwmpas safle’r ddamwain am bobol eraill a allai fod wedi cwympo.