Trollpiken, a'r llwyfan o graig wedi hollti a syrthio i'r llawr
Mae ymgyrch ar droed yn Norwy i godi arian i drwsio craig adnabyddus sydd wedi hollti.

Mae amgylcheddwyr yn flin wedi i holltiadau ymddangos yng nghreigiau Trollpikken – ynghyd ag olion drilio, sy’n awgrymu i’r difrod gael ei achosi’n fwriadol.

Erbyn amser cinio dydd Sul (Mehefin 25) roedd mwy na 500 o bobol wedi cyfrannu bron iawn i 90,000 kroner Norwy (£8,400) i adfer y graig sy’n ei hadnabod gan rai ymwelwyr fel ‘y graig siap pidyn’ i’r de o ddinas Stavanger.

Y bwriad ydi ail-adeiladu’r graig gydag arian y cyhoedd.

Yn y cyfamser, mae’r heddlu yn chwilio am bwy bynnag achosodd y difrod. O’u cael yn euog, fe allai’r troseddwyr gael eu dedfrydu i flwyddyn o garchar.