Mae criwiau achub yn China wedi dod o hyd i naw o gyrff, ac maen nhw’n dal i chwilio am 109 arall, ychydig mwy na diwrnod ers i dirlithriad gladdu pentref mynyddig yn nhalaith Sichuan yn ne-orllewin y wlad.

Mae mwy na 2,500 o weithwyr wedi cyrraedd pentref Xinmo er mwyn chwilio trwy’r rwbel am bobol sydd wedi goroesi.

Dim ond tri o bobol – pâr priod a’u babi tri mis oed – gafodd eu hachub o’r safle ddydd Sadwrn.

Mae cyfryngau’r wlad yn awgrymu mai glaw trwm achosodd y tirlithriad.