Mae tân mewn coedwig yn ne Sbaen wedi gorfodi mil o bobol o’u cartrefi, ac mae’n bygwth lledu i barc cenedlaethol sy’n enwog am ei blanhigion a’i gathod gwyllt.

Mae’r fflamau bellach wedi lledu i gyfeiriad y gorllewin ac wedi cyrraedd Parc Cenedlaethol Donana, un o barciau natur pwysicaf y wlad sy’n gartref i’r lyncs Iberaidd.

Er nad oes bygythiad uniongyrchol i fywydau pobol, mae mil o bobol wedi cael eu symud o’u cartrefi ac o barciau gwersylla ger tref Moguer, lle cynheuodd y tân nos Sadwrn.

Mae tywydd poeth, ynghyd â gwyntoedd cyfnewidiol, yn gwneud y gwaith o ymladd y fflamau yn fwy anodd.