Mae newyddiadurwraig o’r Swistir wedi marw yn dilyn ffrwydrad yn ninas Mosul yn Irac.

Roedd Veronique Robert yn gohebu ar hanes Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – pan ddigwyddodd y ffrwydrad ddechrau’r wythnos.

Bu farw yn yr ysbyty ym Mharis heddiw, meddai Llysgenhadaeth Ffrainc.

Cafodd dau o’i chydweithwyr, Bakhtiyar Haddad a Stephen Villeneuve eu lladd hefyd.

Mae’r brwydro wedi para wyth mis wrth i luoedd Irac geisio gwthio Daesh allan o’r ddinas.

Dyma’r trydydd tro ers mis Hydref i newyddiadurwyr gael eu lladd yn yr ardal.

Mae lle i gredu bod 100,000 o drigolion Mosul yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd i warchod Daesh drwy fod yn dariannau dynol iddyn nhw.