Mae mwy na 140 o bobol ar goll yn dilyn tirlithiriad yn ne-orllewin China.

Cafodd mwy na 40 o gartrefi a gwesty eu taro ym mhentref Xinmo am oddeutu 6 o’r gloch y bore ma, yn ôl yr awdurdodau yn nhalaith Sichuan.

Mae heol milltir o hyd wedi cael ei chladdu.

Goroeswyr

Mae tri o bobol wedi cael eu tynnu o’r rwbel, a dau ohonyn nhw’n dal yn fyw, yn ôl papur newydd y Sichuan Daily, sy’n adrodd bod teulu o dri, gan gynnwys babi, wedi dianc cyn i’r rwbel daro’u cartref.

Yn ôl yr awdurdodau, roedd digon o rwbel i lenwi dros 1,000 o byllau nofio Olympaidd wedi disgyn o’r mynydd.

Mae mwy na 400 o weithwyr, gan gynnwys yr heddlu, yn chwilio am bobol sydd wedi goroesi.

Mae lle i gredu y gallai’r sefyllfa waethygu eto, gyda rhagor o law ar y ffordd dros y dyddiau nesaf.