Mae Donald Trump wedi galw am “undod” wrth iddo ef a’i wraig gynnal eu picnic blynyddol cyntaf yn y Tŷ Gwyn.

Defnyddiodd yr Arlywydd y digwyddiad i dalu teyrnged i Steve Scalise, y gwleidydd Gweriniaethol yn America a gafodd ei saethu’r wythnos ddiwethaf.

Talodd ef a’i wraig, Melania, deyrnged hefyd i’r ysbryd o “undod” oedd yn ystod y gêm pêl fas elusennol trawsbleidiol.

“Ein gobaith yw bod yr undod a gafodd ei ddangos y noson honno yn parhau i dyfu a ffynnu rhwng y Gweriniaethwyr a’r Democratiaid,” meddai Donald Trump.

“Dw i’n meddwl y bydden ni i gyd yn gwneud llawer yn well a dw i’n gwybod y byddai’r wlad yn gwneud llawer yn well.”

Sylwadau sarhaus ar Twitter

Ond oriau yn unig cyn ei alwad am undod, fe anfonodd Trump neges ar Twitter yn lladd ar arweinwyr y Democratiaid yn y Gyngres a’r Senedd – Nancy Pelosi a Chuck Shumer – gan alw’r ail yn “Cryin’ Chuck”.

Mae Donald Trump hefyd wedi beio’r Democratiaid am ei atal rhag pasio deddfau, er mai’r Gweriniaethwyr sy’n rheoli’r ddau Dŷ.