Mae adroddiadau swyddogol i drychineb naturiol mwyaf angheuol Portiwgal mewn degawdau wedi disgrifio’r amodau hynod a arweiniodd at dân gwyllt a laddodd 64 o bobol.

Yn ôl awdurdodau’r wlad, maen nhw wedi llwyddo i reoli ail dân gerllaw sydd wedi bod yn llosgi ers pum diwrnod.

Fe wnaeth mwy na 2,000 o ymladdwyr tân a thua dau ddwsin o awyrennau disgyn dŵr frwydro’r ddau dân am ddyddiau yng nghanol gwyntoedd cryfion a thymheredd oedd wedi codi i dros 40 gradd Celsius.

Fel arfer, mae gwasanaethau argyfwng Portiwgal yn paratoi at danau mawr o Orffennaf 1 ymlaen, ond daeth yr achos diweddaraf yn gynharach na’r disgwyl.

Mae sawl ymchwiliad swyddogol yn asesu’r ymateb i’r trychineb, gan gynnwys sut y cafodd 47 o bobol eu lladd nos Sadwrn ar ffordd yn y wlad, wrth i bobol geisio dianc rhag y fflamau yn eu ceir a chael eu llyncu gan y goelcerth.

Amodau “eithriadol”

Yn ôl asiantaeth dywydd o Bortiwgal, fe ledodd y tân mor gyflym o achos amodau “eithriadol”.

Ddydd Llun, dywedodd pennaeth yr heddlu mai mellt achosodd i’r tân gynnau, ar ôl i ymchwilwyr weld coeden wedi’i tharo.

Yn ôl swyddogion, mae’r ddau dân wedi duo tua 40,000 o hectarau [90,000 o erwau] o goedwig.