Gallai Arlywydd Brasil, Michel Temer gael ei ddiarddel o’i waith ar ôl i’r heddlu ddweud bod tystiolaeth ganddyn nhw ei fod e wedi derbyn cildwrn gan ddynion busnes.

Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu yn dilyn honiadau gan Joesley Batista, perchennog y cwmni pecynnu cig JBS, sy’n cysylltu’r Arlywydd ag achos y carcharor Eduardo Cunha.

Mae Michel Temer yn gwadu ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o’i le, ac mae e’n mynnu na fydd e’n ymddiswyddo.

Ond pe bai achos yn cael ei ddwyn yn ei erbyn, mater i’r Gyngres fydd penderfynu a ddylai e wynebu ymchwiliad gan y Goruchaf Lys – byddai angen cytundeb dau draean o’r aelodau cyn y gallai gael ei ddiarddel.

Yn ôl yr heddlu, derbyniodd un o gyn-gynghorwydd Michel Temer, Rodrigo Rocha Loures gil-dwrn o 150,000 o ddoleri’r Unol Daleithiau ar ei ran.

Ond cafodd yr arian ei drosglwyddo i’r heddlu’n ddiweddarach, ac mae adroddiad yr heddlu’n dweud bod Michel Temer wedi gwrthod ateb eu cwestiynau.

Fe allai wynebu cyhuddiadau o dwyll, atal cyfiawnder a bod yn aelod o sefydliad troseddol.

Daeth Michel Temer yn Arlywydd flwyddyn yn ôl pan gafodd Dilma Rousseff ei diarddel a’i diswyddo wedyn.