Yn dilyn marwolaeth myfyriwr o America ddechrau’r wythnos, mae’r Unol Daleithiau wedi danfon dau awyren fomio uwchsonig ar batrôl ger ffin Gogledd Corea.

Mae’r Unol Daleithiau yn aml yn danfon awyrennau ar batrôl ger ffiniau Gogledd Corea pan mae’r berthynas rhwng y ddwy wlad yn gwaethygu.

Cafodd Otto Warmbier, 22, ei farnu’n euog o ddwyn baner bropaganda ym mis Mawrth y llynedd yn ystod taith i Ogledd Corea.

Ar ôl bod dan glo am 17 mis yng Ngogledd Corea dychwelodd  i’r Unol Daleithiau ar Fehefin 13, a bu farw ddydd Llun wedi cyfnod o fod mewn coma.

Yn ôl ei deulu roedd y myfyriwr wedi bod mewn coma ers ychydig ar ôl cael ei ddedfrydu. Mae Gogledd Corea yn mynnu mai haint botwliaeth oedd yn gyfrifol am ei gyflwr.

Wrth i ymchwiliad mewn i farwolaeth Otto Warmbier ddechrau, mae’n debygol y gall y berthynas  rhwng yr Unol Daleithiau a Gogledd Corea suro ymhellach yn y dyfodol.