Mudwyr yn ceisio dringo ar lori yn Calais, Llun: PA
Mae gyrrwr fan wedi marw yn Ffrainc ar ôl i fudwyr rwystro’r ffordd gyda boncyffion coed.

Gwnaeth y cerbyd wrthdaro â lorïau ger Calais bore ddydd Mawrth, gan ladd y gyrrwr.

Cafodd naw unigolyn o Eritrea oedd yn cuddio tu fewn i un o’r lorïau eu harestio.

Mae mudwyr wedi bod yn rhwystro’r ffyrdd ger Calais fel eu bod yn medru arafu cerbydau sydd yn teithio tuag at y Deyrnas Unedig, a chuddio ynddyn nhw.

Mae’r digwyddiad wedi sbarduno mudiadau trafnidiaeth o Brydain a Ffrainc i alw ar Lywodraeth Ffrainc i wella diogelwch ffyrdd yr ardal.