Heddlu arfog ym Mharis Llun: PA
Mae dyn wnaeth yrru car yn llawn ffrwydron tuag at gerbyd yr heddlu ym Mharis wedi marw, yn ôl gweinidog cartref Ffrainc.

Mae’r digwyddiad wedi’i ddisgrifio fel “ymgais i ymosod” ar y lluoedd diogelwch yn ardal Champs-Elysees, Paris.

Er hyn dywedodd y Gweinidog Gerard Collomb nad oedd cymhelliant y gyrrwr yn gwbl glir eto, ac mae ymchwiliad ar y gweill i’r digwyddiad.

Yn ôl Heddlu Paris, nid oes swyddogion yr heddlu na’r cyhoedd wedi’u hanafu.

Mae adroddiadau fod y gyrrwr yn cario dryll, a’i fod wedi’i losgi’n ddifrifol wedi i’r cerbyd ffrwydro.

Mae Ffrainc yn parhau o dan fesurau diogelwch ar ôl cyfres o ymosodiadau brawychol ar y wlad.