Mosul (Llun: PA)
Mae lluoedd Irac wedi dechrau ar y cam olaf o yrru Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd – allan o ddinas Mosul.

Mae’r ymdrechion wedi para wyth mis hyd yn hyn.

Cipiodd yr eithafwyr Islamaidd rym yn yr ardal yn 2014, ac fe ddechreuodd yr ymdrechion i adennill y ddinas fis Hydref y llynedd.

Mae lluoedd arbennig Irac, y fyddin a’r heddlu ffederal yn cymryd rhan yn yr ymgyrch a ddechreuodd fore Sul.

Mae trigolion lleol wedi cael cyngor ynghylch sut i adael yr ardal yn ddiogel, ac mae’r fyddin wedi dweud y byddan nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i’w hamddiffyn.

Mae lle i gredu bod 150,000 o bobol yn yr ardal sy’n cael ei thargedu.