Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump (Llun: Wikipedia)
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi amddiffyn ei hun mewn cyfres o negeseuon ar wefan gymdeithasol Twitter.

Mae’r negeseuon hefyd yn beirniadu’r ymchwiliad i ymyrraeth Rwsia yn yr etholiad arlywyddol.

Yn y neges gyntaf cyn 7 o’r gloch y bore, dywedodd fod “agenda Make America Great Again yn gwneud yn dda iawn er gwaetha’r sylw’n cael ei droi at yr erlidigaeth.”

Llwyddiannau

Ychwanegodd fanylion am yr hyn y mae e wedi ei wneud ers iddo ddod yn Arlywydd, gan gynnwys creu swyddi, rhoi hwb i fusnesau, deddfau newydd, mesurau cyfiawnder, isadeiledd, gofal iechyd a thorri trethi.

Mae ei ymgynghorwyr wedi dweud ei fod e’n gynyddol grac am yr ymchwiliad i ymyrraeth Rwsia yn yr etholiadau arlywyddol, ac mae e’n mynnu ei fod e wedi cael ei dargedu fel rhan o gynllwyn.