Mae matador wedi cael ei ladd gan darw yn ystod gŵyl ymladd teirw yng Ngwlad y Basg.

Baglodd Ivan Fandino, 36, cyn cwympo i’r llawr a chael ei sathru.

Cafodd e anafiadau i’w ysgyfaint a bu farw ar ei ffordd i’r ysbyty ar ôl cael trawiad ar y galon.

Roedd e wedi bod yn cymryd rhan yng ngŵyl Aire-sur-l’Adour ger Pau ac mae lle i gredu mai fe yw’r matador cyntaf ers canrif i gael ei ladd yn y wlad.

Nid dyma’r tro cyntaf iddo ddioddef ymosodiad gan darw – fe gafodd ei anafu yn Pamplona yn 2015 ac yn Bayonne yn 2014.

Mae ymladd teirw yn gyfreithlon yn Ffrainc ers 2012.