Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron (Llun o gyfrif Twitter En Marche)
Mae Ffrancwyr yn pleidleisio heddiw yn rownd derfynol etholiad a allai gryfhau grym yr Arlywydd Emmanuel Macron.

Plaid En Marche yr Arlywydd ddaeth i’r brig yn y rownd gyntaf, ac mae disgwyl iddyn nhw ennill hyd at 450 o seddi yn y Cynulliad 577 sedd y tro hwn.

Mae hanner y blaid yn fenywod a hanner yn newydd-ddyfodiaid i’r byd gwleidyddol, ac mae Emmanuel Macron yn awyddus i sicrhau bod gwleidyddion sy’n magu gyrfa iddyn nhw eu hunain yn rhan allweddol o’r senedd.

Byddai buddugoliaeth i’r Arlywydd hefyd yn rhoi mandad cryf iddo fe fwrw ymlaen gyda deddfwriaeth newydd ym maes llafur er mwyn ei gwneud hi’n haws cyflogi a diswyddo staff.

Niferoedd isel

Ond fe allai niferoedd isel o bleidleiswyr droi allan ar gyfer yr etholiad, a fydd yn cael effaith negyddol ar ymdrechion Emmanuel Macron, er y byddai’n golygu llai o lwyddiant i’r Front National a’u harweinydd, Marine Le Pen, oedd wedi herio’r Arlywydd ar gyfer y brif swydd.

Mae disgwyl i blaid y Gweriniaethwyr fod yn wrthblaid swyddogol ar ôl yr etholiad, gan ennill rhwng 70 a 110 o seddi.

Ac fe allai’r Sosialwyr, oedd mewn grym o dan y cyn-Arlywydd Francois Hollande, ennill cyn lleied ag 20 o seddi.