Mae heddwas ym Minnesota wedi’i ddyfarnu’n ddieuog o ddynladdiad, wedi i yrrwr croenddu gael ei saethu’n farw.

Fe gafwyd Jeronimo Yanez hefyd yn ddieuog o ddau gyhuddiad arall yn ymwneud â’r digwyddiad yn ardal St Paul.

Roedd wedi saethu’r gyrrwr, Philando Castile, bump o weithiau, ychydig eiliadau’n unig wedi iddo gael gwybod ei fod yn cario gwn.

Yn ei amddiffyniad, fe ddywedodd yr heddwad fod Philando Castile wedi tynnu’r gwn allan o’i boced er iddo gael ei rybuddio i beidio â gwneud hynny.

Roedd yr amddiffyniad hefyd wedi dadlau fod Philando Castille wedi ysmygu lot o marijuana, a bod hynny wedi effeithio ar y ffordd yr oedd yn ymateb i’r heddwas.

Ond roedd gan Philando Castile drwydded i gario gwn, ac fe fu cyfreithwyr ar ran ei deulu yn codi amheuon ynglyn â’r heddwas ac yn holi p’un ai a welodd hwnnw’r gwn o gwbwl.