Jerwsalem
Mae ymladdwyr Palesteinaidd yn gwrthod honiad gan y Wladwriaeth Islamaidd (IS) mai nhw oedd yn gyfrifol am ymosodiad angheuol yn erbyn Israel yn Jerwsalem.

Fe laddwyd plismones yn y digwyddiad, a hynny gan ddynion arfog oedd yn cario gynnau otomatig a chyllyll.

Fe gyhoeddodd IS ddatganiad ben bore Sadwrn yn hawlio cyfrifoldeb am saethu a thrywanu pobol nos Wener. Os yn wir, dyma fyddai’r ymosodiad uniongyrchol cyntaf gan IS yn erbyn Israel, ac mae’r datganiad yn addo mai “nid hwn fydd yr olaf”.

Ond mae Hamas a mudiadau eraill wedi ymateb trwy ddweud fod y tri ymosodwr – a gafodd eu lladd yn ystod y diwgyddiad – yn perthyn iddyn nhw.