Mae Rwsia yn honni eu bod wedi lladd arweinydd grŵp y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn ystod ymosodiad o’r awyr ger dinas Raqqa yn Syria.

Yn ôl Gweinyddiaeth Amddiffyn Rwsia cafodd Abu Bakr al-Baghdadi ei ladd ddiwedd mis Mai ynghyd ag aelodau pwysig eraill y grŵp.

Mae’n debyg bod y Rwsiaid wedi targedu’r arweinwyr wrth iddyn nhw gynnal cyfarfod i drafod cynlluniau i dynnu’n ôl o Raqqa – prifddinas answyddogol IS.

Cafodd drôn ei ddefnyddio i fonitro’r ardal cyn i grŵp o awyrennau bomio Su-34 ac awyrennau jet Su-35 Rwsiaidd ymosod ar y cyfarfod.

Mae Rwsia wedi cynnal ymgyrch filwrol yn Syria o blaid Bashar Assad ers Medi 2015.