Mogadishu (sarah12 Trwydded GNU)
Mae dynion arfog yn cymryd arnynt fod yn filwyr, yn dal nifer o bobol yn wystlon y tu mewn i fwyty poblogaidd ym mhrifddinas Somalia.

Fe ddechreuodd y cyfan pan ffrwydrodd bom wrth giât Pizza House yn Mogadishu nos Fercher.

Mae grwp al-Shabab wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad sydd bellach wedi lladd beth bynnag 17 o bobol. Yn eu plith y mae ymwelwyr, plismyn a gyrrwr ambiwlans.

Mae dau o’r dynion arfog wedi’u saethu’n farw, ac mae deg o wystlon wedi’u hachub. Ond y gred ydi fod pump dyn yn dal i fod y tu mewn.

Dynion ifanc ydi’r rhan fwya’ o’r meirwon, yn ôl adroddiadau.