Pangolin (Llun: WWF)
Mae dau ddyn sy’n cael eu hamau o smyglo anifeiliaid gwyllt wedi’u harestio yn Indonesia, wedi i’r awdurdodau ddod o hyd i dros gant o greaduriaid wedi marw mewn warws yn Sumatra.
Dim ond 110 allan o 225 o pangolinod oedd yn fyw wrth i swyddogion y llynges orfodi eu ffordd i mewn i warws ym mhorthladd Belawan yn Medan.
Roedd y pangolinod ar eu ffordd i Malaysia, ac yn werth tua £147,000 i’r smyglwyr.
Yn ôl grwpiau hawliau anifeiliaid, y pangolin yw’r mamal sy’n cael ei smyglo fwyaf ledled y byd.