Mae mwy na 100 o ymladdwyr ISIS wedi ymosod ar luoedd diogelwch Irac yn ninas Mosul, gan ladd 11 0 blismyn a phedwar o bobol gyffredin.

Fe lwyddodd y gwrthryfelwyr i gael mynediad i ardal orllewinol Dandan yn ystod oriau mân dydd Mercher o gyfeiriad afon Tigris, gan gymryd rheolaeth o fosg.

Yno, fe ddefnyddiwyd y system sain i gyhoeddi bod ISIS yn y fro a bod “Duw yn dda”.

Oddi yno, fe lwyddodd ISIS i gyrraedd ardaloedd Dawasa a Nabi Sheet, gan dorri i mewn i dai a dod wyneb yn wyneb â milwyr diogelwch.