Mae daeargryn 6.9 wedi ysgwyd gorllewin Gwatemala, gan achosi difrod i gartrefi ac achosi tirlithriadau.

Roedd canolbwynt yr ysgwyd rhyw bum milltir i’r de-orllewin o Tajumulco, a thua 69 milltir dan yr wyneb.

Er mai ychydig i’r gorllewin o Ddinas Gwatemala, y brifddinas, y cafodd yr ysgwyd ei deimlo waethaf, mae adroddiadau fod pobol ledled y wlad wedi teimlo ol-gryniadau hefyd.

Mae dyn wedi’i anafu yn San Sebastian Retalhuelu yn y de, wedi i ran o eglwys ddymchwel, ac mae adroddiadau pellach fod sawl un o daleithiau’r wlad heb gyflenwad trydan.

Dros y ffin yn Chiapas, Mecsico, mae nifer o adeiladau wedi’u difrodi, a waliau wedi cracio, ond does neb wedi’i anafu.