Mae prif weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, yn ystyried cau swyddfeydd y dadrlledwr, Al-Jazeera, fel rhan o ymgyrch yn erbyn Qatar gan wledydd Swni ledled y Dwyrain Canol.

Mae Sawdi Arabia wedi bod yn ceisio arwain ymgyrch i ynysu Qatar, gan gyhuddo’r wlad o noddi grwpiau Islamaidd treisgar.

Mae Gwlad yr Iorddonen a Sawdi Arabia wedi cau swyddfeydd lleol Al-Jazeera, tra bod gwefannau a sianeli cysylltiedig hefyd wedi’u blocio yn Sawdi Arabia, yr Aifft, Bahrain a’r Emiradau Arabaidd Unedig.

Mae’r awdurdodau yn Israel wedi bod yn cyhuddo Al-Jazeera o ddangos tuedd yn ei adroddiadau, a ddechrau’r wythnos, fe ddaeth cyhuddiad fod y darlledwr yn ymdebygu i’r Natsïaid yn yr Almaen wrth gyhoeddi “propaganda”.