Mosul yn Irac Llun: PA
Mae o leiaf dau berson wedi marw a channoedd yn sâl yn sgil achosion o wenwyn bwyd mewn gwersyll i bobl sydd wedi ffoi o’u cartrefi yng ngogledd Irac.

Roedd trigolion y gwersyll wedi bod yn bwyta pryd a gafodd ei ddarparu gan sefydliad anllywodraethol ac mae’n debyg bod 752 o bobl wedi’u gwenwyno.

Yn ôl un adroddiad mae dynes a merch wedi marw ac mae o leiaf 300 o bobol yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol – nid yw’n glir os cawson nhw eu gwenwyno’n fwriadol.

Hafan i bobol sydd wedi colli eu cartrefi yn ystod y rhyfel yw’r gwersyll ger dinas Mosul, ac yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae 6,235 yn byw yno.

Gwnaeth y Wladwriaeth Islamaidd (IS) gipio Mosul yn ystod yr haf 2014 ond bellach dim ond ardal fechan o’r ddinas sydd dan reolaeth y grŵp eithafol.