Mosgo
Mae arweinydd yr wrthblaid yn Rwsia, Alexei Navalny, wedi cael ei arestio ym Mosgo ar ei ffordd i brotestiadau yn y brifddinas.

Roedd Alexei Navalny wedi galw am symud lleoliad y protestiadau i un o brif ffyrdd agored Mosgo gan ddweud fod y contractwyr a oedd am adeiladu llwyfan ar y safle blaenorol ddim yn medru gwneud eu gwaith.

Dywedodd ei wraig ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod wedi’i arestio y tu allan i’w dŷ tua hanner awr cyn oedd disgwyl i’r gwrthdystiad ddechrau.

Roedd y gwrthdystiad yn goffâd o ŵyl genedlaethol yn Rwsia gyda phobol yn gwisgo gwisgoedd traddodiadol.

Dywedodd swyddog diogelwch lleol wrth radio Ekho Moskvy na fyddai’r heddlu yn ymyrryd â’r gwrthdystiad ar y stryd ar yr amod na fyddai pobol yn cario placardiau neu’n gweiddi sloganau.

Cafodd mwy na 1,000 o brotestwyr eu harestio mewn rali debyg ym mis Mawrth, ynghyd ag Alexei Navalny am 15 diwrnod.

Dyma oedd un o’r arddangosfeydd mwyaf o anniddigrwydd yn y wlad ers blynyddoedd ac roedd yn her i ddominyddiaeth yr Arlywydd Vladimir Putin.

Mae Alexei Navalny wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll yn yr etholiad arlywyddol yn 2018.