Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA 4.0)
Mae’r Tŷ Gwyn wedi gwadu fod Donald Trump wedi codi amheuon am ddod ar ymweliad gwladol i wledydd Prydain.

Roedd adroddiadau yn y wasg ddoe y byddai’n gohirio ei daith am na fyddai am i’w ymweliad arwain at brotestiadau.

Mae Stryd Downing wedi gwrthod ymateb, gan ddweud fod y gwahoddiad gan Theresa May ar ran y Frenhines pan aeth i ymweld â Donald Trump yn Washington yn “parhau heb newid.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn: “Mae gan yr Arlywydd barch mawr at Brif Weinidog May. Ni chafodd y mater ei godi yn yr alwad.”

Beirniadaeth

Daw’r adroddiadau wedi i Donald Trump ddod o dan y lach am feirniadu Maer Llundain, Sadiq Khan, am ei ymateb i’r ymosodiadau brawychol yn y brifddinas.

Pan ddywedodd Sadiq Khan nad oedd rheswm i boeni am ragor o ymosodiadau, fe gafodd ei gyhuddo gan Donald Trump o wneud “esgusodion pathetig”.