Catalwnia (Llun: Wikipedia)
Fe arweiniodd rheolwr tîm pêl-droed Manchester City, Pep Guardiola rali annibyniaeth yng Nghatalwnia ddoe.

Yn ystod y digwyddiad yn Barcelona, fe alwodd cyn-chwaraewr Barcelona ar y byd i gefnogi refferendwm annibyniaeth sy’n cael ei ystyried yn anghyfreithlon gan lywodraeth Sbaen.

Ymgasglodd miloedd o bobol ger ffynnon yn Barcelona ar gyfer y digwyddiad.

Fe alwodd ar wledydd y byd i “sefyll gyda ni wrth i ni amddiffyn ein hawliau i ryddid, mynegiant gwleidyddol ac i bleidleisio”.

Ddydd Gwener, daeth cadarnhad gan arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont y byddai’r refferendwm yn cael ei gynnal ar Hydref 1.

Ond mae llywodraeth Sbaen yn dadlau fod y fath refferendwm yn anghyfansoddiadol gan fod y mater yn effeithio ar y wlad gyfan.