Syr Roger Moore (Llun: Daniel Leal-Olivas/PA)
Daeth teulu a ffrindiau Syr Roger Moore ynghyd ym Monte Carlo ddoe ar gyfer ei wasanaeth coffa preifat.

Bu farw’r actor, sydd fwyaf adnabyddus am ffilmiau James Bond, yn 89 oed fis diwethaf ar ôl bod yn dioddef o ganser.

Roedd e’n byw yn y Swistir.

Dywedodd ei swyddog cyhoeddusrwydd ar wefan gymdeithasol Twitter bod y gwasanaeth yn “dathlu bywyd hyfryd”.