Mae’r awdurdodau yn Sbaen wedi achub 54 o ffoaduriaid, gan gynnwys dau fabi, wrth iddyn nhw fynd i drafferthion ar Fôr y Canoldir.

Roedd 13 o fenywod yn eu plith.

Fe gawson nhw eu gweld gan long ger Gibraltar.

Dywedodd y Groes Goch fod saith ohonyn nhw wedi cael eu cludo i’r ysbyty neithiwr.

Cafodd mwy na 1,000 o ffoaduriaid eu hachub ddoe wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Ewrop.