Jeff Sessions (Llun: Wikipedia)
Mae Twrnai Cyffredinol yr Unol Daleithiau, Jeff Sessions wedi cytuno i roi tystiolaeth gerbron y pwyllgor cudd-wybodaeth wrth iddyn nhw ymchwilio i ymyrraeth honedig Rwsia yn yr etholiad arlywyddol.

Fe gyfaddefodd e ym mis Mawrth ei fod e wedi cynnal dau gyfarfod â llysgennad Rwsia y llynedd, a hynny ar ôl gwadu’r honiadau ym mis Ionawr.

Ac mae amheuon fod y ddau wedi cyfarfod yn Washington ym mis Ebrill, ond yn ôl yr Adran Weinyddiaeth, roedd Jeff Sessions yno ar gyfer araith gan yr Arlywydd Donald Trump.

James Comey a’r FBI

Mae cyn-gyfarwyddwr yr FBI, James Comey wedi codi rhagor o gwestiynau am yr helynt ar ôl gwrandawiad ddydd Iau.

Dywedodd fod yr FBI wedi disgwyl i Jeff Sessions ddatgan buddiant wythnosau cyn iddo wneud hynny, ond fe wrthododd e fanylu ar yr awgrym.

Dywedodd Jeff Sessions ei fod e wedi derbyn gwahoddiad y pwyllgor cudd-wybodaeth i roi tystiolaeth yn rhannol oherwydd tystiolaeth James Comey.

Dydy Jeff Sessions ddim wedi dweud a fydd e’n ymddangos yn gyhoeddus neu’n breifat.

Cyflwynodd James Comey dystiolaeth yn gyhoeddus cyn cynnal cyfarfod preifat er mwyn trafod gwybodaeth gyfrinachol.