Mae cadeirydd Amnest Rhyngwladol yn Nhwrci wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fod yn aelod o grŵp brawychol, yn ôl adroddiadau.

Mae asiantaeth newyddion Anadolu yn adrodd fod Taner Kilic wedi cael ei arestio yn rhanbarth Izmir, ynghyd â phump o gyfreithwyr eraill sydd wedi’u hamau o ddefnyddio rhaglen dad-godio.

Mae’r rhaglen yn cael ei defnyddio gan y grŵp Fethullah Gulen, sy’n cael eu cyhuddo gan Dwrci o arwain y gwrthryfel yn erbyn llywodraeth y wlad y llynedd.

Dywedodd Amnest Rhyngwladol fod arestio Taner Kilic yn “anghyfiawn”.

Ers haf diwethaf, mae mwy na 50,000 o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o fod â chysylltiad â Gulen.