James Comey (Llun: Wikipedia)
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi dweud ei fod yn barod i dyngu llw er mwyn profi bod cyn-bennaeth yr FBI, James Comey yn dweud celwydd am sgyrsiau’r ddau.

Ond mae e wedi gwrthod dweud a gafodd sgyrsiau rhwng y ddau eu recordio, a dyna sydd wrth wraidd y ffrae.

Ar y pryd, roedd James Comey yn arwain ymchwiliad yr FBI i ymyrraeth Rwsia yn yr etholiadau arlywyddol.

Dywedodd yr Arlywydd nad oedd unrhyw beth yn nhystiolaeth James Comey sy’n awgrymu bod yr Unol Daleithiau a Rwsia wedi bod yn rhan o unrhyw gynllwyn.

Fe wadodd yn ystod cynhadledd i’r wasg ei fod e wedi gofyn i James Comey am “ufudd-dod”, yn groes i’r dystiolaeth, pan ddywedodd James Comey fod y mater wedi’i grybwyll yn ystod cinio yn y Tŷ Gwyn.

Tystiolaeth

Mae un o bwyllgorau’r Tŷ Gwyn wedi gofyn i James Comey am nodiadau neu gofnodion o’r trafodaethau gyda’r Arlywydd cyn iddo gael ei ddiswyddo fis diwethaf.

Mae disgwyl i’r dystiolaeth honno gael ei chyflwyno erbyn Mehefin 23.