Mae senedd Japan wedi pasio deddf fydd yn galluogi i’w ymerawdwr i ildio’r goron – y teyrn Japaneaidd cyntaf i wneud hynny mewn dwy ganrif.

Ym mis Awst y llynedd dywedodd Ymerawdwr Akihito, sydd yn 83 blwydd oed, ei fod am ildio’r goron yn bennaf oherwydd henaint a dirywiad ei iechyd.

Dan y rheolau presennol ond dynion sydd yn medru esgyn gorsedd y wlad, ac mae disgwyl i dywysogesau diarddel eu statws brenhinol pan maen nhw’n priodi dynion cyffredin.

Gan fod tywysogesau methu eistedd ar yr orsedd, mae pryder cynyddol am allu’r llinach frenhinol i barhau yn enwedig o ystyried mai ond un ŵyr sydd â’r Ymerawdwr.

Mae llywodraeth geidwadol y Prif Weinidog, Shinzo Abe, yn cefnogi’r drefn bresennol, er iddyn nhw ystyried y posibiliad o newid y rheolau cyn genedigaeth ŵyr yr Ymerawdwr.