Mae’r awdurdodau ym mhrifddinas Rwmania yn bwriadu talu £475 i bob babi newydd anedig, a hynny mewn ymgais i gynyddu nifer y babis yn cael eu geni yno.

Fe wnaeth cyngor dinas Bucharest bleidleisio o blaid rhoi 2,500 lei (£475) i bob babi sy’n cael ei eni yn un o ysbytai’r ddinas – cyn belled â bod o leiaf un rhiant yn ddinasydd yn y brifddinas.

Mae’r gostyngiad yn lefel poblogaeth Rwmania gyda’r gwaethaf yn Ewrop, ac yn cael ei achosi, yn ôl cyngor Bucharest, gan y cwymp yn y gyfradd genedigaethau a lefelau mewnlifo.

Mae ystadegwyr wedi rhagweld y bydd 26% o’r 19 miliwn o drigolion sydd yn y wlad dros 65 oed erbyn 2026.

Yn ôl y sefydliad sy’n gyfrifol am ystadegau cenedlaethol yn Rwmania, cafodd 21,150 o fabanod eu geni ym Mucharest yn 2010, tra bo 19,250 wedi cael eu geni yno yn 2015.