Baner Rwanda
Mae ecolegydd Hwngaraidd wedi cael ei ladd gan rinoseros tra yn dysgu eraill sut i warchod yr anifail prin ym Mharc Cenedlaethol Akagera, Rwanda.

Yn ôl Prif Weithredwr y Parc, Peter Fearnhead, roedd Krisztian Gyongyi wedi chwarae rhan allweddol wrth ailgyflwyno rhinoserosiaid du i’r parc.

Bu Krisztian Gyongyi yn hyfforddi swyddogion y parc sut i amddiffyn y rhinoserosiaid.

Gwnaeth o leiaf 18 rhinoseros du ddychwelyd i Rwanda fis diwethaf – degawd ers i’r creadur gael ei weld yno ddiwethaf.

Roedd dros 50 rhinoseros du yn byw ym mharc Akagera yn yr 1970au, ond cafodd pob un eu lladd gan helwyr.