Mae dyfais ffrwydrol wedi cael ei daflu at lawnt llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau ym mhrifddinas yr Wcrain.

Ffrwydrodd y ddyfais yn hwyr nos Fercher yn Kiev, ond yn ôl heddlu’r ddinas cafodd neb eu niweidio.

Mae adeilad yr Unol Daleithiau ar ochr orllewinol Kiev ac wedi ei amgylchynu â ffens uchel sydd i fod i atal unigolion rhag medru taflu dyfeisiau o’r fath.

Mewn datganiad, gwnaeth y llysgenhadaeth gadarnhau bod “dyfais danllyd fychan” wedi ei thaflu.

Nid yw’r heddlu wedi datgelu mwy o fanylion ynglŷn â’r ddyfais ffrwydrol ond mae’r achos yn cael ei drin fel gweithred brawychol.