James Comey
Wrth ymddangos gerbron un o bwyllgorau senedd yr Unol Daleithiau heddiw, mi fydd cyn-Gyfarwyddwr yr FBI, James Comey, yn dweud fod Arlywydd y wlad wedi gofyn am ei “deyrngarwch” cyn rhoi’r sac iddo.

Yn ôl dogfen gafodd ei rhyddhau ddoe, mi fydd James Comey hefyd yn honni fod yr Arlywydd Donald Trump wedi gofyn iddo ddod ag ymchwiliad i mewn i’w gyn-Ymgynghorydd Diogelwch, Michael Flynn, i ben.

Nid yw James Comey wedi siarad yn gyhoeddus ers iddo gael ei ddiswyddo gan Donald Trump ar Fai 9 – ar bedwaredd flynedd swydd deg blynedd o hyd.

Mae nifer yn dadlau y cafodd ei ddiswyddo fel ymgais gan yr Arlywydd i rwystro cyfiawnder ac i ddod ag ymchwiliad ohono i ben.

Y disgwyl yw y bydd y cyn-Gyfarwyddwr hefyd yn dweud nad oedd Donald Trump yn bersonol wedi’i dargedu dan ymchwiliad yr FBI ynglŷn â chysylltiadau ymgyrch yr Arlywydd â Rwsia.