Fe fydd Cwrdiaid Irac yn cynnal refferendwm annibyniaeth ar Fedi 25 eleni.

Fe ddaeth y cyhoeddiad ar wefan gymdeithasol Twitter ddydd Mercher yr wythnos hon, a hynny gan Hamin Hawrami, un o brif ymgynghorwyr arlywydd y wlad.

Fe gyhoeddodd bod y penderfyniad wedi’i wneud yn dilyn cyfarfod rhwng pleidiau Cwrdaidd yn Irbil, prifddinas yr ardal lle mae tua 5 miliwn o Gwrdiaid yn byw.

Mae gan yr ardal ei byddin a’i senedd ei hun eisoes, er bod y berthynas â’r llywodraeth ganolog yn Baghdad wedi gwaethygu yn ddiweddar.

Ym mis Ebrill eleni, fe gyhoeddodd prif weinidog Irac, Haider al-Abadi, ei fod yn parchu hawl y Cwrdiaid i gynnal eu pleidlais ar annibyniaeth, ond nad oedd yn credu mai dyma’r amser iawn ar gyfer torri’n rhydd.