Mae baner Montenegro yn cael ei chwifio am y tro cyntaf ym mhencadlys NATO ym Mrwsel heddiw, wedi i’r wlad ddod yn aelod swyddogol o gynghrair filwrol fwya’r byd.

Mae ysgrifennydd cyffredinol NATO, Jens Stoltenberg, wedi galw heddiw yn “ddiwrnod hanesyddol”, gan ddweud fod gan Montenegro bellach sedd o gylch y bwrdd a llais cyfartal yn y trafodaethau.

Mae pob un o benderfyniadau NATO yn cael eu gwneud trwy gydsyniad, yn hytrach na phleidlais, ac mae gan bob aelod hefyd yr hawl i wrthod syniad.

Yn ol arlywydd Montenegro, Filip Vujanovic, fe fydd aelodaeth o NATO yn sicrhau dyfodol “sefydlog, diogel a llewyrchus” i’w wlad.

Roedd Rwsia wedi gwrthwynebu estyn aelodaeth i Montenegro, ond fe ddaeth Montenegro yn aelod llawn ddydd Llun yr wythnos hon – yr aelod cyntaf ers i’w chymdogion, Albania a Croatia, ymaelodi yn 2009.