Mae hunanfomiwr a dynion arfog wedi ymosod ar senedd Iran, gan ladd dau swyddog diogelwch ac anafu mwy na 30 o bobol.

Fe chwythodd un o’r ymosodwyr ei hun i fyny y tu mewn i adeilad y senedd yn Tehran, ac mae llygad dystion yn dweud fod y lleill yn cario gynnau Kalashnikov ac yn saethu o bedwerdydd llawr yr adeilad at bobol yn y strydoedd islaw.

Fe gafodd gwleidyddion a newyddiadurwyr eu gorchymyn i aros y tu mewn i siambr y senedd nes ei bod yn ddiogel iddyn nhw adael.

Mae teledu’r wlad yn adrodd fod yr ymosodiad wedi para tair awr, a bod y pedwar ymosodwr wedi’u lladd gan luoedd diogelwch.