Mae o leiaf bedwar o bobol – yn cynnwys tri phlismon – wedi’u lladd yn ystod protest mewn carchar ym Mecsico.

Fe glywyd ergydion o du mewn i gatiau’r carchar yn Ciudad Victoria, prifddinas talaith Tamaulipas, ac mae lluoedd diogelwch yn gwarchod y fynedfa.

Yn ol adroddiadau, mae rhai carcharorion wedi cael gafael ar reiffls, ac maen nhw wedi bod yn saethu at eu gwarchodwyr. Mae adroddiadau ar raglenni newyddion teledu’r wlad yn adrodd fod chwech o bobol wedi’u hanafu, yn ogystal â’r pedwar sydd wedi’u lladd.

Mae mwy o heddlu a milwyr wedi’u hanfon i’r carchar er mwyn ceisio adennill trefn.