Heddlu Paris ger Eglwys Gadeiriol Notre Dame, lle cafodd ymosodwr ei saethu (Llun: AP/Matthieu Alexandre)
Mae dyn wedi’i saethu a’i anafu gan yr Heddlu ym Mharis ar ôl ceisio ymosod ar swyddog ger Eglwys Gadeiriol Notre-Dame.

Dywed yr heddlu fod yr ymosodwr yn cario mwrthwl ac wedi targedu swyddog yr heddlu oedd ar batrôl yn yr ardal tua 4.30yp (amser lleol).

Nid yw’n glir a oedd yr ymosodwr yn gweithredu ar ei ben ei hun.

Mae’r Heddlu yn annog y cyhoedd i gadw’n glir o’r ardal o gwmpas Notre-Dame.

Roedd tystion wedi gweld llif o geir yr heddlu yn gwibio heibio’r ardal ger Afon Seine, sy’n boblogaidd gyda thwristiaid.

Mesurau diogelwch llym

Mae mesurau diogelwch llym mewn grym ym Mharis yn dilyn cyfres o ymosodiadau gan eithafwyr Islamaidd dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae nifer o’r ymosodiadau hynny wedi targedu swyddogion yr heddlu a swyddogion diogelwch.

Ym mis Ebrill, roedd ymosodwr wedi dechrau tanio gwn at gerbyd yr heddlu yn y Champs Elysees, gan ladd un ac anafu dau yn ddifrifol. Cafodd yr ymosodwr ei saethu’n farw gan yr heddlu.