Talal Silo, llefarydd Lluoedd Democrataidd Syria (SDF) yn cyhoeddi ymgyrch i gipio Raqqa yn Syria (Llun: Syrian Civil War Map)
Mae lluoedd Syria, sy’n cael eu cefnogi gan yr Unol Daleithiau, wedi dechrau ymgyrch i gipio dinas Raqqa – prifddinas answyddogol y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Fe wnaeth ymladdwyr Lluoedd Democrataidd Syria (SDF) gyrraedd gogledd ddwyrain y ddinas wythnos ddiwethaf a bellach mae’r lluoedd yn amgylchynu cadarnle’r grŵp eithafol o bron bob cyfeiriad.

Mae’n debyg y bu farw 12 o fenywod a phlant yn dilyn ymosodiad o’r awyr ar Raqqa nos Lun ac yn ôl asiantaeth newyddion gwladol Syria mae teuluoedd yn ffoi o’r ddinas mewn cychod.

Wrth baratoi am y brwydro sydd i ddod mae IS wedi gosod cynfasau dros brif strydoedd y ddinas er mwyn atal awyrennau rhag medru gweld eu milwyr.

Raqqa oedd un o’r dinasoedd cyntaf i gael ei chipio gan IS ac mae wedi bod yn gartref i nifer o eithafwyr blaenllaw gan gynnwys trefnwyr yr ymosodiad ar Baris ym mis Tachwedd 2015.