Kuwait
Mae Kuwait yn ceisio lleddfu argyfwng diplomyddol ar ôl i wledydd Arabaidd dorri cysylltiadau diplomyddol gyda Qatar.

Yn ôl gweinidog tramor Qatar mae’r penderfyniad yn ymgais i geisio ynysu’r genedl o weddill y byd.

Dyma’r argyfwng diplomyddol fwyaf yn rhanbarth Gwlff Persia ers i’r Unol Daleithiau arwain y rhyfel yn Irac yn 1991. Mae 10,000 o filwyr Americanaidd wedi’u lleoli mewn safle milwrol yn Qatar.

Mae cwmnïau awyrennau wedi gohirio teithiau ac mae trigolion wedi bod yn rhuthro i’r siopau i brynu nwyddau a bwyd oherwydd pryderon am gau’r ffin.