Mae’r heddlu yn Florida yn adrodd bod “pump o bobl wedi marw” ar ôl cael eu saethu mewn ardal ddiwydiannol ger Orlando.
Mae’n debyg bod y dyn arfog wedi lladd ei hun yn y digwyddiad ar safle’r busnes Fiamma a’i fod yn gweithio yno cyn cael ei ddiswyddo.
Dywedodd Siryf Orange County, Jerry Demings, ar Twitter bod y sefyllfa bellach o dan reolaeth ac y byddai rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn y man.
Cafodd nifer o ffyrdd yn Orlando eu cau wrth i’r heddlu ymateb i’r digwyddiad.